We use cookies to ensure our site functions properly and to store limited information about your usage. You may give or withdraw consent at any time. To find out more, read our privacy policy and cookie policy.
Manage Cookies
A cookie is information stored on your computer by a website you visit. Cookies often store your settings for a website, such as your preferred language or location. This allows the site to present you with information customized to fit your needs. As per the GDPR law, companies need to get your explicit approval to collect your data. Some of these cookies are ‘strictly necessary’ to provide the basic functions of the website and can not be turned off, while others if present, have the option of being turned off. Learn more about our Privacy and Cookie policies. These can be managed also from our cookie policy page.
Strictly necessary cookies(always on):
Necessary for enabling core functionality. The website cannot function properly without these cookies. This cannot be turned off. e.g. Sign in, Language
Analytics cookies:
Analytical cookies help us to analyse user behaviour, mainly to see if the users are able to find and act on things that they are looking for. They allow us to recognise and count the number of visitors and to see how visitors move around our website when they are using it. Tools used: Google Analytics
Ymgynghoriad ar Gynllun Blynyddol Drafft yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd 2026 i 2027
Share Ymgynghoriad ar Gynllun Blynyddol Drafft yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd 2026 i 2027 on FacebookShare Ymgynghoriad ar Gynllun Blynyddol Drafft yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd 2026 i 2027 on TwitterShare Ymgynghoriad ar Gynllun Blynyddol Drafft yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd 2026 i 2027 on LinkedinEmail Ymgynghoriad ar Gynllun Blynyddol Drafft yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd 2026 i 2027 link
Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn ymgynghori ar ei Gynllun Blynyddol drafft ar gyfer 2026 i 2027.
Gwybodaeth am yr ymgynghoriad hwn (cefndir yr ymgynghoriad)
Y Cynllun Blynyddol hwn yw'r cynllun gweithredu manwl cyntaf o dan ein Strategaeth newydd ar gyfer 2026-2029. Roedd y Strategaeth yn nodi ein pwrpas o hyrwyddo cystadleuaeth a diogelu defnyddwyr, gyda nod terfynol clir mewn golwg: sef sbarduno twf economaidd a gwella ffyniant aelwydydd.
Mae ein Cynllun Blynyddol drafft yn nodi ein blaenoriaethau blynyddol a newidiadau rydym yn eu gwneud i'r ffordd rydym yn gweithio ar gyfer pob un o'n swyddogaethau. Mae'r rhain yn adlewyrchu'r pum amcan craidd yn ein Strategaeth, a'r canlyniadau y byddwn yn cyfrannu atynt er lles economi, dinasyddion a busnesau'r DU..
Rydym eisiau clywed gennych
Rydym yn croesawu barn rhanddeiliaid a phartïon sydd â buddiant, ac rydym yn gofyn am farn pobl ar y cwestiynau canlynol:
Ydych chi'n cytuno â blaenoriaethau arfaethedig yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar gyfer y flwyddyn i ddod?
Sut gall yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ymgysylltu â'n rhanddeiliaid yn effeithiol yn ystod y flwyddyn i ddod?
Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ar Gynllun Blynyddol drafft yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd?
Byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol a roddwch yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Dim ond at ddibenion ein gwaith y byddwn yn cadw ac yn defnyddio eich data personol (i sicrhau ein bod yn ystyried eich ymateb). Byddwn wedyn yn ei ddileu'n ddiogel. Ni fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd parti. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn prosesu data personol, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd (dolen allanol).
Byddwn yn crynhoi'r holl ymatebion ac yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a ddaeth i law. Bydd y crynodeb yn cynnwys rhestr o sefydliadau a oedd wedi ymateb, ond ni fydd yn cynnwys enwau pobl, cyfeiriadau na manylion cyswllt eraill. Cyn cyhoeddi gwybodaeth, byddwn yn ystyried unrhyw gyfyngiadau a osodir arnom gan y gyfraith (er enghraifft, ynghylch gwybodaeth gyfrinachol). Os ydych o'r farn bod eich ymateb yn cynnwys gwybodaeth sy'n fasnachol sensitif neu'n gyfrinachol am ryw reswm arall, nodwch hynny, gan nodi ei bod yn fasnachol sensitif neu'n gyfrinachol ac egluro pam. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Tryloywder a Datgelu: Datganiad o bolisi a dull gweithredu’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (dolen allanol).
Oni bai fod eithriad yn berthnasol, mae'n bosibl y byddwn yn datgelu'r ffaith eich bod wedi darparu gwybodaeth i ni, a'r wybodaeth rydych chi wedi'i darparu, yn unol â'n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.