Cynllun Blynyddol Drafft yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) 2025 i 2026

Share Cynllun Blynyddol Drafft yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) 2025 i 2026 on Facebook Share Cynllun Blynyddol Drafft yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) 2025 i 2026 on Twitter Share Cynllun Blynyddol Drafft yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) 2025 i 2026 on Linkedin Email Cynllun Blynyddol Drafft yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) 2025 i 2026 link

Pwrpas yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yw helpu pobl, busnesau ac economi’r DU drwy ddiogelu cystadleuaeth a mynd i’r afael ag ymddygiad annheg.

Gwybodaeth am yr ymgynghoriad hwn

Rhoddodd yr ymgynghoriad hwn gyfle i randdeiliaid ac eraill sydd â diddordeb roi eu barn ar ein Cynllun Blynyddol drafft ar gyfer 2025 i 2026: Hyrwyddo Cystadleuaeth a Diogelu Defnyddwyr i Yrru Twf Economaidd, Cyfle, a Ffyniant ar gyfer y DU.

Llwyddom i ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled y DU yn ystod cyfnod yr ymgynghoriadyn enwedig o fewn y cymunedau busnes, buddsoddi ac eiriolaeth y defnyddiwr.

Eich data personol

Bydd unrhyw ddata personol a roddwch yn cael ei brosesu gennym ni yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Dim ond at ddibenion ein gwaith y byddwn yn cadw ac yn defnyddio eich data personol (er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried eich ymateb) ac yna byddwn yn ei ddileu’n ddiogel. Ni fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd parti. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r CMA yn prosesu data personol, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Byddwn yn crynhoi’r holl ymatebion ac yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd. Bydd y crynodeb yn cynnwys rhestr o’r sefydliadau a ymatebodd, ond nid enwau, cyfeiriadau na manylion cyswllt eraill pobl. Cyn cyhoeddi gwybodaeth, byddwn yn ystyried unrhyw gyfyngiadau a osodir arnom gan y gyfraith (er enghraifft, ynghylch gwybodaeth gyfrinachol). Os ydych chi’n credu bod eich ymateb yn cynnwys gwybodaeth sy’n fasnachol sensitif neu’n gyfrinachol am ryw reswm arall, nodwch hynny, nodwch ei bod yn fasnachol sensitif neu’n gyfrinachol ac esboniwch pam. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Tryloywder a Datgelu: Datganiad polisi a dull gweithredu’r CMA.

Oni bai fod eithriad yn berthnasol, efallai y byddwn yn datgelu’r ffaith eich bod wedi darparu gwybodaeth i ni, a’r wybodaeth rydych chi wedi’i darparu, yn unol â’n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA).

Page last updated: 24 Apr 2025, 08:20 AM